Home news Y Ddraig Goch wedi cyrraedd!

Y Ddraig Goch wedi cyrraedd!

66
0

O’r diwedd, mae emoji y Ddraig Goch i’w gweld ar ddyfeisiadau iOS!Ar ôl diweddaru meddalwedd eich dyfais Apple heddiw, fe ddylai’r faner fod ar gael i chi rannu’n falch.Wedi dipyn o aros ac edrych ymlaen, mae defnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol yn dathlu! Cafodd yr emoji sêl bendith gan Unicode, y corff rhyngwladol sy’n eu datblygu, yn gynharach eleni. Ers hynny mae cwmnïau fel Google, Facebook ac Apple bellach wedi bod yn ychwanegu’r emoji i’w llyfrgelloedd.Cafodd yr ymgyrch i gael emoji baneri gwledydd Prydain ei harwain gan Jeremy Burge o Emojipedia a phennaeth cyfryngau cymdeithasol BBC Cymru, Owen Williams.Hefyd o ddiddordeb:Ble mae’r Ddraig Goch?
Source: BBC Wales